Te Traddodiadol

Mwynhewch de ymlaciol o fath traddodiadol yng Ngwesty Parc y Stradey, Llanelli, gyda dewis o leoliadau sy’n cynnwys lolfa’r Rooftop Lounge neu ystafell y Conservatory, sy’n cynnig golygfeydd panoramig godidog dros y Gŵyr a Bae Caerfyrddin.

Mae ein te traddodiadol yn cael ei baratoi ar y safle, felly rydym yn argymell eich bod yn archebu ymlaen llaw. Mae pob te traddodiadol yn cynnwys rownd a hanner o frechdanau, dewis o gacenni cartref, gan gynnwys sgons ffres gyda jam a hufen tolch, gyda dewis o de neu goffi.

Mae te traddodiadol yn anrheg ddelfrydol i rywun arbennig; rydym yn cynnig tocynnau rhodd te traddodiadol a ddaw mewn waled arbennig. Gallwch hefyd archebu te traddodiadol ar gyfer cawodydd priodas, penblwyddi, bedyddiadau neu fel te angladd.