Bar y Parc

Mae Bar y Parc yn cynnig amgylchedd anffurfiol a chyfoes i chi gael ymlacio a theimlo'n gartrefol. Mae'r décor yn dro modern ar yr arddull Art Deco sy’n ei wneud yn lle steilus i westeion yn ogystal â phobl sy'n dod i ddigwyddiadau. Mae staff cyfeillgar y bar yn ychwanegu awyrgylch croesawgar i gyd-fynd â steil y lle a’r bar sydd wedi'i oleuo'n hyfryd. Cynigir amrywiaeth o brydau bar blasus ar gyfer achlysuron mwy anffurfiol yn Llanelli.

Mae'r bar yn cynnig ystod o gwrwau, lagers, gwirodydd, gwinoedd a gwirodlynnau, ac yn cadw sawl brand Cymreig rhagorol, gan gynnwys cwrw Double Dragon Felinfoel sy’n cael ei fragu’n lleol, brag sengl gwych Penderyn a’r Merlyn hufennog braf.

Yn ystod y dydd mae hefyd yn lle perffaith i ymlacio â diod gynnes o ddewis eang o de a choffi, neu i gael pryd mwy anffurfiol o fwydlen y bar.